Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Cyllido Ysgolion yng Nghymru | School Funding in Wales

SF 08

Ymateb gan: Cyngor gwynedd
Response from:
Gwynedd Council

 

Areas of focus

Comments:

The sufficiency of provision for school budgets, in the context of other public service budgets and available resources

Ers 2010/11 mae Cyngor Gwynedd wedi gorfod wynebu gostyngiad o -0.9% y flwyddyn, ar gyfartaledd, yn y grant canolog ddaw gan Lywodraeth Cymru (ar ôl addasu ar gyfer cyfrifoldebau newydd).

 

Dros yr un cyfnod mae cost darparu gwasanaethau’r Cyngor wedi cynyddu oherwydd costau chwyddiant (cyfartaledd o +2.2% y flwyddyn) a mwy o alw am wasanaethau (er enghraifft, mae’r nifer pobl dros 85 oed sy’n byw yng Ngwynedd wedi cynyddu dros 20%).

 

Er gwaethaf y cyd-destun hynod heriol yma mae’r Cyngor wedi bod yn gwarchod cyllidebau ysgolion yn gyson, a hynny ar draul y cyllid sydd ar gael i weddill y gwasanaethau, fel a ddangosir yn y graff isod:

 

 

Yng Ngwynedd felly mae gwariant ar ysgolion wedi cynyddu dros y cyfnod (ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddo adnoddau i’r setliad a gwahanol bolisïau datganoli) tra mae gwariant ar yr holl feysydd eraill (yn cynnwys gofal oedolion a phlant, gwastraff a phriffyrdd) wedi fwy neu lai aros yn ei unfan. Nid yw parhau â’r patrwm yma yn mynd i fod yn gynaladwy i’r dyfodol.

 

The extent to which the level of provision for school budgets complements or inhibits delivery of the Welsh Government’s policy objectives

 

Dim sylwadau

 

 

 

 

The relationship, balance and transparency between various sources of schools’ funding, including core budgets and hypothecated funding

Dros y blynyddoedd mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer fawr o grantiau penodol ar gyfer cyllido elfennau o wariant ar ysgolion. Mae hyn yn peri problemau oherwydd

·         nifer a maint y gwahanol grantiau dan sylw

·         yr angen i adrodd a thystiolaethu gwariant ar nifer helaeth ohonynt – sydd efo goblygiadau adnoddau i gynghorau

·         er y gall cyllido drwy grant wneud synnwyr ar gyfer cyflwyno rhai cynlluniau un-tro neu gynlluniau newydd sydd angen amser i ddod yn rhan o wariant prif-lif, mewn nifer o achosion mae’n aneglur pam bod y Llywodraeth wedi dewis ariannu drwy grant yn hytrach na drwy gyllid craidd

·         fod nifer o’r grantiau yma yn cael eu sianelu drwy’r consortia addysg rhanbarthol, sy’n codi cwestiynau am eglurder ac atebolrwydd rôl awdurdodau lleol

·         mae ansicrwydd cyson wedi bod ynglŷn â dyfodol nifer o’r grantiau, yn cynnwys p’run ai / pryd fyddent yn trosglwyddo i’r setliad cyffredinol

·         mae toriadau sylweddol ac annisgwyl wedi’u gwneud i nifer o’r grantiau yma rhwng un flwyddyn a’r llall, er gwaetha’r ffaith fod nifer ohonynt yn ariannu ymrwymiadau pwysig a pharhaol.

 

Un enghraifft o hyn yw’r grant Cyfnod Sylfaen. Bu cyflwyno’r Cyfnod Sylfaen yn un o brif flaenoriaethau’r Llywodraeth dros y blynyddoedd diwethaf, ac roedd yn golygu gwariant ychwanegol sylweddol i ysgolion, oedd yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn i ddechrau, wrth i’r gyfundrefn newydd gyrraedd mwy o ystod oedrannau.

 

Roedd yn gwneud synnwyr felly i’r gofynion gael eu cyllido drwy grant penodol ar y dechrau, ac fe gyflwynwyd grant o £25m ar draws Cymru yn 2008/09, oedd yn cynyddu fesul blwyddyn nes cyrraedd £99m yn 2013/14.

 

Ers hynny, fodd bynnag:

Ø  cafodd swm y grant ei dorri o £99.0m i £97.9m yn 2014/15

Ø  yn 2015/16, cafodd y grant yma ei gyfuno efo 10 o grantiau eraill i ffurfio’r Grant Gwella Addysg (roedd yr elfen Cyfnod Sylfaen yn ffurfio tua 65% o gyfanswm y grant cyfun newydd). Ar yr un pryd, fodd bynnag, cafodd cyfanswm y grant newydd ei dorri 7% o’i gymharu â chyfanswm y cyn-grantiau

Ø  Cafwyd gostyngiadau sylweddol pellach yng nghyfanswm y grant newydd dros y blynyddoedd dilynol (6% yn 2016/17, 1% yn 2017/18 ac 11% yn 2018/19).

 

Mewn gwirionedd ‘does dim rheswm o gwbl pam nad yw cyllid y Cyfnod Sylfaen wedi trosglwyddo i’r setliad cyffredinol erbyn hyn, dros ddegawd ers ei gyflwyno. Gan ei fod yn parhau’n grant penodol, mae’r arian nid yn unig yn annigonol erbyn hyn i gwrdd â chwyddiant dros y cyfnod, ond mae ysgolion ac awdurdodau lleol wedi gorfod dioddef toriadau mympwyol ac annisgwyl yn swm yr arian sydd ar gael. Nid yw hyn yn ffordd synhwyrol na theg o ariannu un o brif flaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru ym maes addysg.

 

The local government funding formula and the weighting given to education and school budgets specifically within the Local Government Settlement

Mewn un ystyr mae’r cwestiwn yma yn amherthnasol – mae’r grant canolog ddaw drwy’r setliad llywodraeth leol i fod ar gyfer ariannu gwariant llywodraeth leol yn ei gyfanrwydd ac nid oes rhan ohono yn cael ei neilltuo ar gyfer ysgolion nag unrhyw faes gwasanaeth arall.

 

Fodd bynnag, mae’n amlwg yn bwysig fod y fformiwla cyllido (yn cynnwys y rhan o’r fformiwla sydd i fod i adlewyrchu cost darparu addysg) yn gweithio mewn ffordd deg, a bod modd deall ac egluro pam bod y swm grant gaiff Cyngor Gwynedd (ac o fewn hynny yr elfen syniannol ar gyfer Addysg) yn newid rhwng un flwyddyn a’r llall.

 

Oherwydd y ffordd mae’r fformiwla ar gyfer elfen Addysg y setliad yn gweithio, gallai ‘Indicator Based Assessment’ (IBA) Addysg Gwynedd fod yn newid o un flwyddyn i’r llall oherwydd un ai:

·         newid yng nghyfanswm yr arian ar gyfer llywodraeth leol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru (Grant Cynnal Refeniw + Trethi Annomestig);

·         newid yn y cyfran o gyllideb cynghorau Cymru a ddynodwyd i Addysg yn y flwyddyn cynt (e.e. mae setliad 2018/19 yn defnyddio’r cyfran o gyfanswm cyllideb cynghorau Cymru roddwyd i Addysg yn 2017/18);

·         newid yn y cyfran o wariant Addysg cynghorau Cymru a wariwyd ar bob sector (cynradd, uwchradd, arbennig, ayb) ddwy flynedd yn ôl (e.e. mae setliad 2018/19 yn defnyddio’r cyfran wariwyd ar bob sector yn 2016/17);

·         newid yn niferoedd disgyblion Gwynedd ddigwyddodd 15 mis cyn blwyddyn ariannol y setliad (e.e. mae setliad 2018/19 yn defnyddio data nifer disgyblion Ionawr 2017);

·         hefyd – newid yn niferoedd disgyblion gweddill Cymru hyd yn oed pe bai niferoedd Gwynedd heb newid (gan mai ar sail cyfran o ddisgyblion Cymru mae’r fformiwla yn gweithio);

·         newid yn niferoedd Gwynedd (neu gynghorau eraill) o ddisgyblion yn hawlio cinio am ddim (eto ar sail data Ionawr 15 mis cyn blwyddyn y setliad);

·         unrhyw newid yn y dangosydd ‘gwasgaredd’ ddefnyddir i adlewyrchu costau uwch mewn ardal wledig (er, ar hyn o bryd mae’r dangosydd yma yn seiliedig ar ddata o Gyfrifiad 1991):

·         unrhyw newid i bwysoliad (‘weighting’) y gwahanol ffactorau uchod yn y fformiwla.

 

Mewn gwirionedd, byddai’r rhan fwyaf o’r newidiadau uchod yn digwydd ar draws ei gilydd mewn unrhyw flwyddyn ariannol. Mae hyn yn ei gwneud yn arbennig o anodd i ni fel Cyngor ddeall, heb sôn am geisio egluro i’n trigolion, y newid blynyddol yn y symiau a p’run ai oes modd cyfiawnhau’r newidiadau yma. Mae’n anodd iawn hefyd gwneud y cyswllt uniongychol rhwng canlyniad y fformiwla a’r hyn mae’r fformiwla i fod i’w gyllido – sef ar ei symlaf, staff yn addysgu disgyblion mewn adeiladau.

 

I oresgyn y problemau hyn, byddai’n well cael dull sylfaenol wahanol o lunio’r fformiwla cyllido – fel ei fod yn seiliedig ar fesurau syml a gwrthrychol o’r angen i wario. Er enghraifft, mae’n debygol bod y gost o redeg ysgol gynradd yn cynnwys elfen sefydlog (cost sylfaenol rhedeg ysgol, waeth pa mor fach ydyw e.e. pennaeth, costau gwresogi a goleuo ar gyfer yr adeilad ysgol lleiaf bosib ac ati) yn ogystal ag elfen amrywiol (costau sy’n cynyddu yn ôl nifer y disgyblion, e.e. staff dysgu ychwanegol, mwy o lyfrau a deunyddiau ac ati). Dylai fod yn bosib pennu beth yw maint pob elfen ar sail empirig.

 

Gellid wedyn seilio’r fformiwla ar gyfer Addysg Gynradd ar hyn, h.y. £x y disgybl ac £y yr ysgol (gyda nifer yr ysgolion yn dibynnu ar nifer y disgyblion ac ar batrwm aneddiadau pob awdurdod). Byddai hyn yn fwy tryloyw, ac yn llawer haws i’w berthnasu i’r gwir gostau y mae awdurdodau yn eu hwynebu. Byddai’n llawer iawn haws hefyd egluro’r newidiadau o un flwyddyn i'r llall (e.e. mae nifer y disgyblion A yn llai bellach ac felly mae angen B yn llai o ysgolion; felly, mae eich dyraniad yn cael ei ostwng (A x £x) ar gyfer staff a deunyddiau a (B x £y) ar gyfer nifer yr ysgolion).

 

Welsh Government oversight of how Local Authorities set individual schools’ budgets including, for example, the weighting given to factors such as age profile of pupils, deprivation, language of provision, number of pupils with Additional Learning Needs and pre-compulsory age provision

Mae gosod Cyllideb Ysgol Unigol (CYI) a dosbarthu’r CYI yn ddau fater ar wahân.

 

Yn arferol mae gosod y CYI blynyddol yn golygu ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys –

·         Archwilio lefelau cyllido presennol yn erbyn lefelau cyllido awdurdodau eraill

·         Cynnydd mewn costau (tal, yswiriant gwladol, pensiwn, chwyddiant ayb)

·         Newidiadau demograffeg disgyblion

·         Blaenoriaethau Cynllun Strategol yr Awdurdod

·         Oblygiadau ariannol Setliad Llywodraeth Leol gan gynnwys strategaethau ariannol

·         Costau ychwanegol ynghlwm i ddeddfwriaeth newydd/diwygiedig

·         ayb

       

Mae dosbarthu’r CYI yn cael ei lywodraethu gan y Rheoliadau Ariannu Ysgolion (Cymru) 2010

Os yw Ll.C. eisiau dealltwriaeth am ddulliau dosbarthu A.Ll. gellid casglu’r wybodaeth o Rhan 2 o’r Datganiad Cyllideb Adran 52 blynyddol. Yn amlwg mi fydd yna wahaniaethau rhwng dulliau dosbarthu A.Ll. gan y byddant yn adlewyrchu gofynion a blaenoriaethau lleol.           

 

Progress and developments since previous Assembly Committees’ reviews (for example those of the  Enterprise and Learning Committee in the Third Assembly)

Dim sylwadau

The availability and use of comparisons between education funding and school budgets in Wales and other UK nations

Mae dadansoddiadau o wariant cymharol ar addysg / ysgolion yn cael eu cynhyrchu gan Lywodraeth Cymru ac rydym yn gwneud peth gwaith cymharol ein hunain hefyd er mwyn tyrchu’n ddyfnach i’r cymariaethau. Mae’r cymariaethau hyn yn rhan o’r wybodaeth sydd ar gael i aelodau wrth wneud penderfyniadau cyllido blynyddol, ond y prif ystyriaethau wrth gwrs yw anghenion gwario gwahanol wasanaethau’r Cyngor a’r adnodd sydd ar gael i ddiwallu hynny, yn hytrach na cheisio dilyn penderfyniadau gwario pob cyngor arall.

 

Mae’r ffaith bod amgylchiadau pob awdurdod yn wahanol (e.e. o ran natur a sgôp darpariaeth addysg arbennig) yn cymhlethu’r darlun hefyd, ac yn golygu bod angen gofal wrth ddehongli cymariaethau gwariant.

 

Oherwydd gwahaniaethau cynyddol ym mholisi / natur darpariaeth Addysg ar draws Prydain (e.e. datblygiad ‘academïau’ yn Lloegr) nid yw cymariaethau gyda gwledydd eraill y DU ar gael yn gyffredinol erbyn hyn, ond nid oedd cymariaethau o’r fath o lawer o ddefnydd i ni p’run bynnag.